CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Sesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân

Y Lolfa

Sesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Huw Dylan Owen

ISBN: 9781784611255 
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x140 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol o ysgrifau hwyliog ar y byd sesiynau gwerin yng Nghymru, gydag enw a nodiant alaw Gymreig yn bennawd i bob pennod. Llyfr unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o'r blaen.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Sesiynwr gwerin a fu'n aelod o'r grwpiau Defaid a Gwerinos yw Huw Dylan Owen. Roedd yn un o sylfaenwyr Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Tyrfe Tawe yn Abertawe, a hefyd yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol y Ganolfan Werin Genedlaethol, Tŷ Siamas, Dolgellau.

Gwybodaeth Bellach:
Dewch ar daith i brofi sesiwn werin Gymraeg a Chymreig. Cewch ddysgu am fyd cerddoriaeth draddodiadol a'r holl ddiwylliant a geir o dan yr wyneb. Yma, rhwng cloriau'r gyfrol, datblyga'r alawon yn noswaith o firi, hiraeth a hwyl y Gymru gyfoes.
Defnyddir enw a nodau alaw Gymreig yn fan cychwyn i bob pennod. Llyfr hwyliog ac unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o’r blaen.