CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cydymaith Caneuon Ffydd

Pwyllgor Caneuon Ffydd

Cydymaith Caneuon Ffydd

Pris arferol £19.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Delyth G. Morgans

ISBN: 9781862250529
Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 2008
Cyhoeddwr: Pwyllgor Caneuon Ffydd, Aberystwyth
Fformat: Clawr Caled, 215x150 mm, 764 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cydymaith i'r llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd, yn cynnwys 760 tudalen o wybodaeth am holl emynau, tonau, emynwyr, cyfieithwyr a chyfansoddwyr Caneuon Ffydd. Ceir trafodaeth gynhwysfawr ar hanes emynyddiaeth yng Nghymru, ynghyd ag arweiniad diogel i holl amrywiaeth cynnwys Caneuon Ffydd. Argraffiad newydd o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn Nhachwedd 2006.

Gwybodaeth Bellach:
Yr oedd cyhoeddi Caneuon Ffydd yn Ionawr 2001 yn gyfle i gyflwyno emynau a thonau cyfarwydd a hefyd rai newydd i gynulleidfaoedd a phobl Cymru yn gyffredinol ledled y wlad. Y mae'r ffaith fod y casgliad wedi gwerthu wrth y miloedd a'i fod yn awr yn ei drydydd argraffiad yn brawf fod y diddordeb byw yn y rhan hon o'n treftadaeth yn parhau.

Bwriad Cydymaith Caneuon Ffydd yw rhoi hanes cryno pob emyn a thôn yn y casgliad ynghyd â chynnig bywgraffiad byr o bob emynydd, cyfansoddwr a chyfieithydd. Y mae ynddo hefyd gyflwyniad sylweddol i hanes emynyddiaeth Gymraeg. Elfen ddifyr yn y Cydymaith yw'r sylw sy'n cael ei roi i gynifer o hanesion diddorol, ac annisgwyl weithiau, am gysylltiadau cyfansoddi llawer o'r emynau a'r tonau. Cewch atebion i'r rhan fwyaf o'ch ymholiadau a chodi hefyd lawer o wybodaeth newydd wrth bori yn y Cydymaith.

Gwybodaeth Bellach ar gyfer yr ail argraffiad:

Y Cydymaith ar gael unwaith eto!
Cyn y Nadolig eleni, bydd cyfrol a aeth allan o brint ddwywaith mewn ychydig fisoedd pan gyhoeddwyd hi adeg y Nadolig yn 2006 yn ôl mewn print. Bydd Cydymaith Caneuon Ffydd wedi’i diweddaru a’i chywiro lle’r oedd angen, ar gael eto.

Y mae’r wybodaeth am emynwyr a cherddorion cyfoes wedi’i diweddaru, fel y mae dyddiadau’r cyfeillion hynny a fu farw ers cyhoeddi’r gyfrol yn 2006. Cywirwyd ambell wall anffodus, megis honni fod un cyfansoddwr yn flaenor gyda’r Presbyteriaid ac yntau mewn gwirionedd yn ddiacon gyda’r Annibynwyr. Parhaed brawdgarwch!

Y newid amlycaf yn yr argraffiad newydd hwn yw cynnwys ynddo adran sydd yn rhestru llinellau cyntaf penillion pob emyn, ychwanegiad a fydd yn cynorthwyo’r darllenydd i ddod o hyd i emyn yn y Cydymaith heb orfod troi at gopi o Caneuon Ffydd ei hun.

Y mae’n dal yn fargen. Mewn dwy flynedd nid yw’r pris wedi codi fawr ddim: £19.95 am gyfrol 760 o dudalennau’n llawn gwybodaeth ddiddorol.

Gobeithio y bydd y Cydymaith yn para mewn print am amser hirach y tro hwn - ond na chymerwch ddim yn ganiataol; peidiwch oedi, mynnwch gopi nawr!