Awdur: D. Geraint Lewis
ISBN: 9781849345019
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Medi 2018
Cyhoeddwr: Waverley Books, Glasgow
Fformat: Clawr Meddal, 147x103 mm, 256 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Mae'r geiriadur gwerthiant uchel hwn yn glir, yn gryno, yn gyfoes ac yn gynhwysfawr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg. Ceir dros 20,000 o benawdau, yn cynnwys ffurfiau afreolaidd ansoddeiriau, berfau ac enwau lluosog ynghyd ag atodiad yn rhedeg y prif ferfau afreolaidd.
Bywgraffiad Awdur:
Enillodd D. Geraint Lewis wobr Tir na-nOg am Geiriadur Gomer i'r Ifanc. Ers hynny y mae wedi cyhoeddi nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg. Mae wedi cyhoeddi Thesawrws Plant yn ddiweddar ac yn gweithio ar eiriadur 6ed dosbarth i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. Ymhlith ei weithiau eraill ceir cyfrolau o garolau Nadolig i blant a chyfrol gynhwysfawr o ganeuon traddodiadol, Can Di Bennill. Cyn ymddeol, bu'n Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol yn gyfrifol am Wasanaethau Diwylliannol yng Ngheredigion.