CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

123 Byd Natur

Luned Aaron

123 Byd Natur

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Luned Aaron

ISBN: 9781845276485
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Medi 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Caled, 217x214 mm, 44 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol liwgar a difyr sy'n cyflwyno'r rhifau o 1-20 i blant ifanc, wedi'i chynllunio a'i darlunio gan yr artist Luned Aaron. Anrheg berffaith i blant bach sy'n dechrau dod i adnabod y byd - edmygwch ddelweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i weld beth allwch chithau ei ganfod.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dwy ferch fach. Mae’n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y gogledd.
Gwybodaeth Bellach:
Dilyniant i gyfrolau hardd ABC Byd Natur a Lliwiau Byd Natur Gwasg Carreg Gwalch a fydd yn cyflwyno rhifau i blant mân.
Gwobrau:
Enillodd y gyfrol ABC Byd Natur gan Luned Aaron, Wobr Tir na n-Og 2017.