ISBN: Canolf
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2016
Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth, Caerfyrddin
Darluniwyd gan Debbie Thomas
Fformat: Clawr Caled, 300x312 mm, 22 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn. Prif nod y llyfr yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a ddarlunir.
Gwybodaeth Bellach:
Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn.
Prif nod y llyfr yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a ddarlunir. Cynlluniwyd y golygfeydd amrywiol gan gadw mewn cof nodweddion Deilliant 2 ar draws pedwar Maes Dysgu Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Ar gyfer pob golygfa ceir;
- braslun o brif nodweddion yr olygfa benodol honno
- set o gwestiynau caeedig a phenagored i ysgogi trafodaeth
- rhestr o eirfa benodol ar gyfer yr olygfa honno
- ystod o syniadau am weithgareddau
- cyfle i ddatblygu ymhellach nifer helaeth o sgiliau ymarferol, corfforol, annibynnol, creadigol, personol, ieithyddol a mathemategol y plentyn
- tabl sy'n nodi union berthynas y gweithgareddau â Phroffil y Cyfnod Sylfaen
I gyd-fynd â'r ffliplyfr A3, ceir pamffled lliwgar sy'n nodi union ddatganiadau Proffil y Cyfnod Sylfaen, o gyrhaeddiad efydd hyd at Ddeilliant 6 yn y pedwar Maes Dysgu.