CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth Ym Mhatagonia

Morgan Tomos

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth Ym Mhatagonia

Pris arferol £2.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Morgan Tomos

ISBN: 9781847718099
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Hydref 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Morgan Tomos
Fformat: Clawr Meddal, 200x210 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r 19eg llyfr yng Nghyfres Alun yr Arth. Mae Alun yn creu peiriant hedfan sy'n mynd ag o yr holl ffordd i Batagonia. Rydym yn cyfarfod ag anifeiliaid fel pengwiniaid a gwanacos, yn ogystal ag un deinosor arbennig.

Gwybodaeth Bellach:
Roedd dau fachgen sy’n byw ym Mhatagonia wedi cysylltu â’r awdur yn gofyn iddo greu llyfr am y wlad. Mae’r gyfrol yn cymharu Cymru â Phatagonia o ran tirwedd, iaith a bywyd gwyllt a hynny mewn ffordd syml.

Ymweliad â Phatagonia yn Ysbrydoli Antur Newydd i Alun yr Arth

Patagonia yw lleoliad antur ddiweddaraf Alun yr Arth, wrth i Alun yr Arth fynd ati i greu awyren i gario dŵr o Gymru i diroedd sych Patagonia. Mae’r gyfrol wedi ei chyflwyno i Mabon, Idris, Esyllt a Cristian - teulu o Batagonia, sy’n ddilynwyr mawr o’r gyfres. Ysbrydolwyd Morgan Tomos i ysgrifennu’r stori wedi i’w fam, Cadi Tomos, ymweld â’r Wladfa a chwrdd â’r teulu wrth gerdded ar y stryd nid nepell o’r Gaiman. Yn y llyfr Mabon ac Idris yw enwau’r ddau gwanco, ffrindiau Alun, a Cristian yw enw’r condor sy’n cario Alun am ran o’r daith i’r Wladfa, ac mae Esyllt yn ddeinasor blin.

Dywedodd Morgan Tomos: “Bydd Alun yr Arth yn wastad wrth ei fodd yn gwneud ffrindiau newydd. Ac er iddo hel syniadau eithaf twp, eisiau helpu mae o a dweud helo mawr. Mae Patagonia ben arall y byd ond mae Alun yr Arth yn gweld mai tebyg yw pawb ac eto’n ddiddorol o wahanol.”

Mae Cyfres Alun yr Arth wedi datblygu i fod yn un o hoff gyfresi plant Cymru. Erbyn hyn, o weld yr ymateb gwych a gafwyd i’r llyfr gan blant Ysgol Feithrin y Gaiman wedi i Esyllt Nest ddarllen y stori iddynt, mae’n ymddangos fod Alun yn dipyn o ffefryn ochr arall i’r byd hefyd.

24 tudalen, yn cynnwys lluniau lliw llawn a thestun gan Morgan Tomos, sydd wedi cael ei hyfforddi fel animeiddiwr.