CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Gofod

Morgan Tomos

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Gofod

Pris arferol £2.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Morgan Tomos

ISBN: 9781847713049
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Mai 2016
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 200x210 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nid yw Alun yn un da am gadw ei draed ar y ddaear ... Stori gyffrous arall yng Nghyfres Alun yr Arth. Pan welodd Alun roced gyntaf Cymru, doedd ond un peth i'w wneud - hedfan i'r gofod! Ond pwy feddyliai y byddai'n cwrdd â thri ffrind newydd ar ei daith anturus. Ysgrifennwyd gan Morgan Tomos a phlant Ysgol y Gelli, Caernarfon. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2010.

Gwybodaeth Bellach:
Awdur a phlant yn ysgrifennu stori am y gofod ar y cyd

Mae Alun yr Arth yn y Gofod, yn ganlyniad i gydweithio rhwng awdur a disgyblion. Pan gafodd Morgan Tomos, awdur Cyfres Alun yr Arth, wahoddiad i gynnal gweithdy yn Ysgol y Gelli, Caernarfon, roedd wrth ei fodd. Meddai’r awdur: “I Ysgol y Gelli es i pan oeddwn i’n blentyn, felly pan ddaeth y gwahoddiad i fynd yno i gynnal sesiwn stori, fel rhan o gynllun Awduron ar Daith yr Academi, allwn i ddim gwrthod. Mae cael bod yng nghwmni dosbarth o blant yn ysbrydoliaeth. Mae eu brwdfrydedd bob tro yn fy ysgogi i ysgrifennu stori. Hon yw’r 13eg yn y gyfres!”

Yn y stori hon, mae Alun yn mynd am dro yn roced gyntaf Cymru – y Ddraig Goch – ond wrth gwrs dyw’r daith ddim un hwylus. Mae’n taro yn erbyn comed ond mae’n cael ei thrwsio gan dri o Bobol Bach Gwyrdd, rhyfedd iawn yr olwg. Dyw Alun ddim yn siwr sut i ymateb iddyn nhw ac felly mae’n dechrau siarad Saesneg, cyn i’r Bobol Bach Gwyrdd esbonio mai Cymraeg yw iaith y gofod!