CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Gwawr Edwards
ISBN: 9781784617240
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Mai 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Ali Lodge
Fformat: Clawr Meddal, 248x190 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol hardd, llawn lliw yn cynnwys 4 stori am Mali'r ci sy'n byw ar fferm. Mae pob stori yn canolbwyntio ar un tymor a dilynwn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol. Mae'n Gymreig ei naws, gan gyflwyno dywediadau a chwpledi: 'Ebrill, tywydd teg a ddaw, gydag ambell gawod law'. Cynhwysir geiriau 4 cân i gydfynd a'r gyfrol o'r CD Mali - Y Caneuon a'r Storïau (0111922195).
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Gwawr yn wyneb ac yn llais cyfarwydd fel unawdydd proffesiynol
ac fel aelod o'r grwp Athena. Mae'n byw yng Nghaerdydd ond mae ei
gwreiddiau'n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae ganddi ddau o
blant erbyn hyn - Nel ac Ynyr, a gafodd ei eni ym mis Rhagfyr 2018.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Gwawr wedi cyfansoddi 4 cân i gyd-fynd â'r straeon a bydd CD gan Sain yn cael ei ryddhau yr un pryd â'r llyfr. Cynhwysir geiriau'r caneuon yn y gyfrol.