Awdur: Manon Steffan Ros
ISBN: 9781784617233
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Jac Jones
Fformat: Clawr Meddal, 201x211 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfuniad deniadol rhwng stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc. Cyhoeddodd y ddau Dafydd a Dad ar y cyd yn 2013. Mae'r stori yn ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy'n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb
Bywgraffiad Awdur:
Mae Manon yn un o awduresau mwyaf poblogaidd a mwyaf toreithiog Cymru ac mae wedi ennill llu o wobrau ar gfyer ei nofelau i'r arddegau, i oedolion ifanc ac oedolion, gan gynnwys Gwobr Tir na nOg sawl gwaith, ac enillodd y fedal Ryddiaith yn 2018 gyda'r clasur Llyfr Glas Nebo. mae'n byw yn Nhywyn, Meirionnydd, ond daw'n wreiddiol o Riwlas.
Mae Jac Jones yn byw yn Llangefni ac mae'n arlunydd profiadol , sydd wedi gweithio ym myd arlunio llyfrau plant ers y 1970au. Mae wedi ennill Gwobr Tir na nOg 3 gwaith a chafodd ei anrhydeddu gyda Thlws Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i fyd llenyddiaeth plant yn 2012.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma stori am bobol ‘wahanol’ yn dod i fyw drws nesa i Tim a’i deulu. Maen nhw’n siarad, yn edrych ac yn bwyta bwyd gwahanol i bawb arall mae Tim yn eu hadnabod. Ond buan daw Tim a Bob drws nesa yn ffrindiau drwy chwarae a chwerthin gyda’i gilydd. Pan oedd rhai plant yn gas i Bob roedd Tim yn gofalu amdano a daw’r cymdogion newydd yn rhan o’r gymdeithas drwy siarad yr un iaith. Ac er eu bod nhw’n wahanol, does dim ots.