CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr

Morgan Tomos

Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr

Pris arferol £2.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Morgan Tomos

ISBN: 9780862437909
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Chwefror 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 200x209 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg

Stori fywiog arall wedi ei darlunio'n lliwgar am helyntion Alun yr arth direidus wrth iddo gael bath; i blant dan 7 oed. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi'r chweched stori am Alun yr Arth. Y tro yma mae'r arth direidus yn troi'n fôr-leidr.

Morgan Tomos, cynrychiolydd gwerthiant gyda'r Lolfa, yw awdur y stori a fe hefyd sydd wedi darlunio'r lluniau a chreu'r cymeriadau. Mae ei brofiadau fel gwerthwr llyfrau yn amlwg yn y stori yma gan fod rhan fwyaf o'r stori wedi ei lleoli mewn siop lyfrau sy'n gwerthu llawer o lyfrau'r Lolfa. Mae Alun yr Arth wedi cael llond bol ar chwarae gyda theganau, ac mae'n cael ei lusgo i siop lyfrau. Ar y dechrau, mae'n troi ei drwyn ar lyfrau ond mae'n cael gafael ar lyfr ar fôr-ladron Cymru. Caiff ei hudo gan y llyfr, ac wrth ddarllen y storïau am Harri Morgan a Barti Ddu mae'n dychmygu ei fod e'n fôr-leidr - Capten Alun Wyllt! Wrth ddychmygu ei helyntion yn ymladd ar y môr mae'n chwalu'r siop lyfrau. Tuag at ddiwedd y llyfr daw'n amlwg i Alun bod llawer o sbort i gael wrth ddarllen llyfrau a drannoeth mae'n mynd yn ôl i'r siop i brynu rhagor o lyfrau.

Dyma'r chweched gyfrol yn y gyfres o lyfrau stori a llun i blant bach, ac er mai stori syml iawn yw hi, caiff neges pwysigrwydd darllen ei chyfleu yn gryf iawn, neges sydd yn amlwg yn agos at galon Morgan fel awdur a gwerthwr llyfrau a thad i ddau fachgen ifanc.