CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyntaf i'r Felin

Siân Northey

Cyntaf i'r Felin

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Northey
ISBN: 9781845276201
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Mawrth 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Sion Morris
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr hwyliog i blant yn cynnwys diarhebion o bob math. Nid gwerslyfr mo'r gyfrol hon ond llyfr hwyliog sy'n esbonio pob dihareb mewn stori feicro. Dilyniant i'r llyfrau idiomau Dros Ben Llestri a Dim Gobaith Caneri. Lluniau/cartŵnau du a gwyn hwyliog gan Sion Morris.
Tabl Cynnwys:
64 dihareb sy’n dweud gwirioneddau mawr am sawl peth. Ymhen chwinciad chwannen, bydd y diarhebion llafar yma ar flaen dy dafod.

Straeon ysgafn Siân Northey a lluniau hwyliog Siôn Morris sy’n ein tywys i ddeall pob dihareb – diarhebion cyfarwydd a rhai anghyfarwydd.

Faint o ddiarhebion alli di eu hadrodd yn barod?

Cyntaf i’r felin gaiff falu!