CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Del y Ditectif

Dref Wen

Del y Ditectif

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Julia Donaldson

ISBN: 9781784231026 
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Ebrill 2018
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Darluniwyd gan Sara Ogilvie
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwynne Williams.
Fformat: Clawr Meddal, 250x280 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ymunwch â Del y Ditectif a helpwch i ddatrys dirgelwch y llyfrau coll yn y llyfr cyffrous llawn odlau hwn.

Gwybodaeth Bellach:
Doedd dim gwell ditectif yn unman trwy’r byd na Del, oedd yn sniffian o hyd ac o hyd.
Mae gan Del, ci Dan, y gallu i ffroeni pob peth. Os oes un o’i esgidiau ar goll neu rywbeth wedi gwneud pw mawr ar lwybr yr ardd mae
trwyn Del yn brysur ar waith. Ond mae ganddi ddoniau eraill. Bob
bore Llun mae hi’n mynd efo Dan i’r ysgol lle mae hi’n gwrando ar y
plant yn darllen. Felly pwy well i gael wrth law pan aethon nhw yno
un bore a gweld bod y llyfrau i gyd wedi diflannu! Pwy oedd wedi eu
dwyn? A pham? Does ond un sy’n gallu datrys y dirgelwch ... ac mae
Del y Ditectif yn barod i ffroeni ei ffordd at y lleidr.