CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Terry Fan, Eric Fan
ISBN: 9781849673570
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Medi 2016
Cyhoeddwr: Rily, Caerffili
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Delyth George
Fformat: Clawr Caled, 310x222 mm, 48 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Un diwrnod, mae Wiliam yn darganfod bod y goeden y tu allan i'w ffenest wedi'i cherflunio'n dylluan ddoeth. Dros y dyddiau nesaf, daw rhagor o docweithiau, a phob un yn fwy rhyfeddol na'r un cynt. Yn fuan iawn, mae tref fach lwyd Wiliam yn llawn bywyd a lliw. Mae'r darluniau syfrdanol, a'r dweud cynnil yn ein tywys i fyd hudolus, ac yn ein hannog i werthfawrogi prydferthwch natur.