CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Nicola Davies
ISBN: 9781802582376
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Medi 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Abbie Cameron
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x251 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg
♥ Llyfr y Mis i Blant: Hydref 2022
Mentrwch i fyd yr infertebratau brwd, a mwynhau cwmni'r corryn, y mwydyn a'r gwlithyn, y chwilen a'r pilipala, heb anghofio am yr ystifflog a'r octopws dan y tonnau. Dewch i ddysgu am y mini-angenfilod rhyfeddol hyn yng nghwmni Nicola Davies. Mae pob llyfr yn y gyfres hon wedi'i ddarlunio mewn lliw llawn gan y darlunydd talentog Abbie Cameron.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae'r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadows & Light a Country Tales.
Astudiodd Abbie Cameron darlunio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Llyfrau cyntaf Abbie i'w cyhoeddi oedd cyfres Animal Surprises, a aeth ymlaen i ysbrydoli cyfres How To Draw.