CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Malachy Doyle
ISBN: 9781914079405
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Andrew Whitson
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x252 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg
Gan ddefnyddio cymeriadau o gyfres lwyddiannus Mali, mae Malachy Doyle yn dangos sut mae Mali a'r ynyswyr eraill yn ymdopi â'r cloi mawr, fel y cloi presennol sy'n wynebu pawb yn y DU. Gwna Mali bosau jig-so, mae’n ymarfer canu'r ffidil ac yn gofalu am yr anifeiliaid anwes tra bod ei mam yn helpu'r ynyswyr eraill, a'i thad yn methu dychwelyd o'r tir mawr. Cyfieithiad Cymraeg.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyle wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i'r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi'u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â'r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a'r Môr Stormus, Mali a'r Goleudy a Mali a'r Morfil, rhai o'i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker
Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi'i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle.
Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae'n artist arobryn sy'n hoffi cael ei alw'n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o'r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda
Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.