CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Michewa a'r Mynydd

Atebol

Michewa a'r Mynydd

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sean Chambers

ISBN: 9781913245375 
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Sean Chambers
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros.
Fformat: Clawr Caled, 263x260 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy'n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod, i brofi ei hun i'w thad, sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus, mae hi'n mynd ati i ddringo'r 'Mynydd Unig' ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae'r mynydd penodol hwn wedi'i orchuddio â dirgelwch a pherygl.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Sean wedi byw a gweithio yn Tywyn, Gwynedd am y 14 mlynedd diwethaf. Astudiodd Gelf Gain ym Mhrifysgol Central Lancashire ac erbyn hyn y mae’n ddarlunydd llawrydd llawn amser, yn creu darnau unwaith ac am byth ar gyfer cleientiaid ledled y byd. Yn ddiweddar, derbyniodd gomisiwn i greu nifer o ddarluniau bywyd gwyllt ar gyfer cyngor lleol ac ar y cyd â’r RSPB ac mae Sean wedi cael gwahoddiad gan yr RNLI i gynnal arddangosfa unigol o bortreadau bad achub hanesyddol yn eu Pencadlys yn Poole ar ddiwedd y flwyddyn. Fel tad i 6 o blant ifanc ac ar ôl darllen miloedd o straeon amser gwely, mae ganddo awydd i droi ei sgiliau darlunio ac adrodd straeon yn lyfr stori a llun ei hun.

Gwybodaeth Bellach:
Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig. Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.
Geiriau Cymraeg gan: Manon Steffan Ros.