CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pecyn Goleuo'r Dudalen

Rily

Pecyn Goleuo'r Dudalen

Pris arferol £15.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781849674317 
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Chwefror 2019
Cyhoeddwr: Rily, Caerffili
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.
Fformat: Clawr Caled, 268x268 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Pecyn yn cynnwys 3 theitl yn y gyfres 'Goleuo'r Dudalen': Ar y FfermY Corff Dynol a Cyfrinachau'r Ddaear.

Gwybodaeth Bellach:
1. Beth sydd i'w weld ar y fferm heddiw? Gyda chymorth y llyfr goleuo'r dudalen hwn, sy'n cynnwys gwaith celf hyfryd, cewch ddysgu am ffermio drwy'r tymhorau. Cewch hefyd ddarganfod delweddau 'cudd' wrth ddal y tudalennau i'r golau! Cyfrol liwgar, llawn hwyl ac addysgol!
2. Beth sy'n digwydd o dan y croen? Rho olau y tu ôl i'r dudalen i gael gweld... Os edrychi di'n fanwl ar y corff dynol, cei weld pa mor anhygoel yw e! O'r aer rydyn ni'n ei anadlu a'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta, daw rhyfeddodau cudd y corff dynol i'r golwg.
3. Beth yw cyfrinachau'r Ddaear? Rho olau y tu ôl i'r dudalen i gael gweld... Os edrychi di'n fanwl ar ein planed, cei dy synnu'n fawr! O'r lafa sy'n ffrwtian yng nghrombil y llosgfynydd, i'r creaduriaid sy'n byw o dan y môr ac yn y tywod, daw rhyfeddodau cudd y Ddaear i'r golwg.