CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Sw Sara Mai

Casia Wiliam

Sw Sara Mai

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Casia Wiliam

ISBN: 9781784618629
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Gwen Millward
Fformat: Clawr Meddal, 195x131 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i'r ysgol, a ble mae'n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde Affrica na merched eraill Blwyddyn 5. Bydd yn barod i chwerthin a chrio wrth i Sara Mai rannu hanes ei bywyd gyda ni; o'r jiraff sydd ofn uchder, i eiriau sbeitlyd amser chwarae, a'r frwydr anferth i achub y peth pwysicaf yn ei bywyd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Un o Ben Llŷn yw Casia Wiliam. Wedi degawd yng Nghaerdydd mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i gŵr Tom a'u meibion, Caio a Deri. Mae Casia'n fardd ac yn awdur sy'n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Pan nad yw'n ysgrifennu mae'n gweithio i elusen ac yn mwynhau crwydro, sgwrsio a chwarae gyda'i meibion.