CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Llew Tu Mewn / The Lion Inside

Atebol

Y Llew Tu Mewn / The Lion Inside

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rachel Bright, Jim Field

ISBN: 9781910574294 
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Atebol
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Eurig Salisbury.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 300x240 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Llyfr stori gynnes gyda thestun sy'n odli ac sydd hefyd â neges arbennig i'w dysgu. Y prif gymeriad yw llygoden fach sy'n ceisio ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae'n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed fawr neu fach, ran bwysig i'w chwarae yn y byd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.

Gwybodaeth Bellach:
Addasiad Eurig Salisbury o 'The Lion Inside' gan Rachel Bright a Jim Field.
Llyfr stori gynnes gyda thestun sy'n odli ac sydd hefyd â neges arbennig i'w ddysgu.
Llygoden fach yw'r prif gymeriad, er ei bod hi'n fach mae eisiau ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae'n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed yn fawr neu'n fach ran bwysig i'w chwarae yn y byd.
Bu Eurig Salisbury yn Fardd Plant Cymru rhwng 2011 – 2013 ac mae ei brofiad ym maes llenyddiaeth plant a'r hiwmor naturiol yn ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer yr addasiad hwn gan Atebol.