CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Yr Eliffant Eithaf Digywilydd / The Slightly Annoying Elephant

David Walliams

Yr Eliffant Eithaf Digywilydd / The Slightly Annoying Elephant

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: David Walliams

ISBN: 9781910574386
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Mawrth 2016
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Tony Ross
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gruffudd Antur
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 270x270 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws, ond wedi iddo ddod i'r tŷ, mae'n un antur anferth ar ôl y llall! Stori ddoniol gan yr awdur poblogaidd David Walliams, addasiad Cymraeg Gruffudd Antur a darluniau yr arlunydd Tony Ross. Cyfrol ddwyieithog sy'n addas i blant dros 3 oed.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:

Mae David Walliams yn awdur, actor, digrifwyr a chyflwynydd poblogaidd a llwyddiannus iawn.
Gwybodaeth Bellach:
Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws...wedi dod i mewn i'r ty mae'n un antur anferth ar ol y llall!!!
Mae David Walliams yn un o'r awduron mwyaf llwyddiannus ym maes llyfrau plant ym Mhrydain. Gan ddefnyddio'i hiwmor unigryw cawn stori gynnes a doniol am yr eliffant mawr, glas, awdurdodol ac eithaf digywilydd!
Mae'r llyfr yn ddwyieithog ac yn cynnwys darluniau trawiadol gan yr arlunydd enwog Tony Ross.
Addas i blant 3 - 7 oed.
*Hefyd yn y gyfres mae 'Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad' - stori ddoniol arall gan David Walliams, sy'n adrodd hanes dau hipo sy'n ceisio dwyn y teitl 'Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad'!
Gwobrau:
Mae Tony Ross wdei ennill gwobrau am ei waith arlunio llyfrau i blant gan gynnwys yr arlunydd gorau ym myd llyfrau mewn seremoni wobrwyo yn yr Almaen ym 1984.
Mae David Walliams wedi bod ar frig siart gwerthwyr llyfrau gorau Prydain sawl gwaith.