CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 1

Canolfan Peniarth

Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 1

Pris arferol £49.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Tudur Dylan Jones, Mererid Hopwood
ISBN: 9781783902330
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2019
Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth, Caerfyrddin
Golygwyd gan Elin Meek
Darluniwyd gan Rhiannon Sparks
Fformat: Clawr Meddal, 320x250 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 1, sef 8 o straeon a cherddi gwreiddiol i blant yn y Cyfnod Sylfaen. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Tabl Cynnwys:
8 Llyfr A4: (Anifieiliaid yn y dref; Bwyd o Bedwar Ban Byd, Croesi'r Ffordd; Hamdden yr Haf; Lliwiau: Rwy'n clywed â'm clustiau fach i..., Rwy'n gweld â'm llygad bach i..., Teithio)
48 Cerdyn her A4 (6 cherdyn ar gyfer pob llyfr)
2 Boster A3
Canllaw A4 i athrawon

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd.