CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Brenin y Trenyrs

Gwasg Carreg Gwalch

Brenin y Trenyrs

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Pryderi Gwyn Jones
ISBN: 9781845277338
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg
ADIDAS, NIKE, PUMA, VANS, CONVERSE, REEBOK... Dyma stori am fachgen sydd wrth ei fodd efo trenyrs! Wir yr! Mae o'n ysu am gael pâr o'r trenyrs Adidas gorau sydd yn siop 'sgidiau fwyaf cŵl y dre, Foot Locker.
Bywgraffiad Awdur:
Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd Pryderi Gwyn Jones yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd i’r canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach mae'n dad i ddwy o ferched. Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora'n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Brenin y Trenyrs yw ei nofel gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
Coeliwch fi, nid tasg hawdd ydy cael trenyrs eich breuddwydion a hwythau’n costio ffortiwn! Beth am gael job dydd Sadwrn? Dim gobaith caneri yn dair ar ddeg oed! Beth am berswadio dad fod y Gazelles sydd am ei draed ers dau ddeg tri mis a phedwar diwrnod yn rhy fach ac yn drewi fel toilet Yncl Roy ar fore Sul? Anodd iawn! A fydd ei ffrindiau yn gallu ei helpu i hel pres? Beth am y ferch sydd ar fin dod yn gariad iddo? Fydd ganddi hi syniadau? Cawn weld!