CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Caerdydd

Gomer

Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Caerdydd

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gareth Lloyd James

ISBN: 9781848511385
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Hydref 2009
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Taith beryglus i Wersyll Caerdydd yng nghwmni Glyn, Jac, Deian a Rhodri; dilyniant i Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn. Wedi hynt a helynt y criw ffrindiau yng Nglan-llyn y llynedd, ar daith i Wersyll Caerdydd yr â nhw nesaf, gan dynnu nyth cacwn am eu pennau unwaith yn rhagor!

Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Gwmann ger Llanbedr Pont Steffan, mae Gareth Lloyd James bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ac yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Mae’n weithgar iawn gyda’r Urdd, bu’n llywydd y mudiad rhwng 2007-2008 ac ef yw is-gadeirydd y pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010.
Gwybodaeth Bellach:
Pan mae un o brif actorion y Cwmni Theatr yn mynd ar goll, gyda’r heddlu yn amau herwgipiad, mae cyfrinach Glyn yn arwain y bechgyn ar daith beryglus i achub yr actores ifanc, yn ogystal â rhywun llawer agosach ac anwylach ganddynt.

********************************
Gwersyll Caerdydd a’r anturiaeth fawr

Canolfan Mileniwm Cymru – un o brif ganolfannau celfyddydol y byd gyda’i adeilad trawiadol, yw un o eiconau prifddinas Cymru erbyn hyn. Y Ganolfan unigryw hon a Stadiwm y Mileniwm sy’n serennu ar glawr cyfrol ddiweddaraf Cyfres Cawdel, Dirgelwch Gwersyll Caerdydd gan Gareth Lloyd James. Wyddech chi fod Canolfan Mileniwm Cymru hefyd yn gartref i un o wersylloedd yr Urdd gyda lle i 153 o bobl aros dros nos? Gyda neuadd/theatr, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth, dyma gyrchfan hwylus i ddosbarthiadau ysgol. Glyn, Jac, Deian a Rhodri yw’r criw ffrindiau sy’n ymweld â Gwersyll Caerdydd yn ail nofel y gyfres a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Mae tynnu nyth cacwn am eu pennau’n dod yn rhwydd iawn i’r bechgyn hyn ac mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth wedi i un o brif actorion Cwmni Theatr yr Urdd ddiflannu. Tybed a fydd drygioni ganol nos y bechgyn o gymorth i’r heddlu ddatrys y dirgelwch a datgelu ambell gyfrinach arall ddigon defnyddiol ynglŷn â’r Gwersyll yng Nghanolfan y Mileniwm? Yn gefnlen i helyntion y nofel mae dinas Caerdydd ei hun ac fe ddaw’r anturiaethau’n fyw i’r darllenydd gyda’r lleoliadau cyfarwydd.