CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Glan-Llyn

Gomer

Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Glan-Llyn

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gareth Lloyd James
ISBN: 9781848510333
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Mawrth 2009
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 197x130 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg
Helyntion criw o ffrindiau yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Mae'r prif gymeriad, Glyn, a'i ffrindiau pennaf, Jac, Deian a Rhodri, y n fechgyn drygionus a direidus. Maent yn aml yn mynd o dan groen e u hathro, Mr Llwyd, sy'n ei chael yn anodd iawn i reoli'i ddisgyblion.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Gareth Lloyd James yn wreiddiol o Gwmann, Llanbed ac yn ddirprwy-brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
Gwybodaeth Bellach:
Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn yn Serennu
Mae mis Ebrill yn fis pwysig iawn i ddirprwy-brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth eleni. Fe fydd Gareth Lloyd James, sy’n wreiddiol o Gwmann, Llanbed yn priodi, ac yn ogystal â hynny, fe fydd yn cynnal ei sesiynau llofnodi cyntaf fel awdur. Mae Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn, y teitl cyntaf yng nghyfres Cawdel, a llyfr cyntaf Gareth ei hun, yn stori ddirgelwch sy’n dilyn criw o blant ar daith breswyl i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn. Lleolir tair nofel arall y gyfres yng ngwersylloedd Llangrannog, Caerdydd a Phentre Ifan. Gyda miloedd o blant Cymru yn gyfarwydd â’r lleoliadau a’r gweithgareddau a gynigir yn y gwersylloedd, fe fyddan nhw’n siwr o uniaethu â rhai o brofiadau’r plant yn y nofelau.

Mae’r Urdd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd nifer o blant ysgol yng Nghymru ac mae’n agos iawn at galon yr awdur ifanc hwn hefyd. Gareth Lloyd James yw is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010 a bu’n llywydd y mudiad rhwng 2007-2008. Mae’n gwybod yn union beth sydd at ddant plant 9 -12 oed, yn enwedig y bechgyn, ac fe gafodd ei ddosbarth yn yr ysgol flas ar gynnwys y llyfr cyn ei gyhoeddi.

Fel mae’r teitl yn awgrymu, nofel ddirgelwch yw hon sy’n dilyn anturiaethau criw o blant ar daith breswyl i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn. Mae’r prif gymeriad, sef Glyn, a’i ffrindiau pennaf Jac, Deian a Rhodri, yn fechgyn drygionus a direidus dros ben, ac mae trwbwl yn eu dilyn nhw i bobman. Ar y llaw arall, mae’r merched yn ymddangos fel angylion. Maen nhw’n dda am wneud popeth, ond maen nhw hefyd yn mynd dan groen y bechgyn gyda’u triciau twyllodrus! Wrth i’r plant fwynhau tridiau yn y gwersyll, fe sylweddolwn nad ymweliad cyffredin â’r gwersyll yw hwn. O ddarllen y nofel, cewch weld pam!