CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dafydd a Dad

Manon Steffan Ros

Dafydd a Dad

Pris arferol £3.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros
ISBN: 9781847717528
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Jac Jones
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 200x209 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Stori hyfryd am berthynas Dafydd a'i dad prysur. Addas i blant o dan 7 oed. Darluniwyd gan Jac Jones.
Tabl Cynnwys:
Mae Jac Jones yn adnabyddus fel awdur yn ogystal â dylunydd, ac enillodd wobr Tir na n-Og yn 1989, 1990 a 1998. Cipiodd Manon Steffan Ros yr un wobr yn 2010 am ei nofel Trwy’r Tonnau (Cyfres yr Onnen, y Lolfa) ac am yr eildro yn 2012 gyda Prism (Cyfres yr Onnen, y Lolfa).
Gwybodaeth Bellach:
Cyfuniad deniadol o stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc.

Mae Dafydd yn ceisio cael ei dad i wneud pethau e.e. chwarae pêl-droed, mynd at yr afon, ond mae ei dad yn rhy brysur wrth y gwaith tŷ.

Felly, mae Dafydd yn gwneud cuddfan yn y gwrych ac yn syrthio i gysgu. Pan mae ei dad yn gweiddi arno ei bod hi'n amser cinio, mae'n mynd i chwilio am Dafydd ac yn sylweddoli beth sy'n bwysig mewn gwirionedd.
Llyfr 32 tudalen, yn llawn lluniau lliw.