CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Fflur a Fflach: Dyma Fi!

Gomer

Fflur a Fflach: Dyma Fi!

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Chloe Inkpen
ISBN: 9781848519510
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Mai 2015
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Mick Inkpen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mari Lovgreen
Addas i oed 0-5 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Caled, 187x187 mm, 12 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr bwrdd hyfryd am Fflur a Fflach yn gwisgo i fyny a dychmygu bod yn gymeriadau gwahanol. Addasiad o Zoe and Beans: Look at me! gan Mari Lovgreen.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Fflur a Fflach yn gymeriadau bach annwyl iawn. Fe’u cyflwynwyd gyntaf yn y llyfr stori-a-llun Fflur a Fflach: Yr Hwla Hud, sef gwaith Mick a Chloë Inkpen, a addaswyd i’r Gymraeg yn hyfryd iawn gan Mari Lovgreen.
Datblygu cymeriadau Fflur a Fflach wna'r gyfrol hon, sef llyfr bwrdd syml gyda thipyn llai o destun na’r llyfr stori-a-llun gwreiddiol, ond sy’n goglais y dychymyg wrth gyflwyno’r syniad o wisgo i fyny a dychmygu bod yn gymeriadau gwahanol. Mae diwyg hyfryd i’r gyfrol a chorneli crwn, sy’n addas ar gyfer plant ifanc iawn.
Fflur a Fflach a’r gwisgoedd ffansi
Dyna braf fyddai gallu gwisgo dilledyn newydd er mwyn cael fy nhrawsnewid yn llwyr yn rhywun hollol wahanol. Dyna’n union sy’n digwydd i Fflur a’i ffrindiau wrth iddyn nhw gamu’n siriol i fyd y dychymyg yn y llyfr bwrdd newydd, Fflur a Fflach: Dyma Fi! a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Mae Fflur a Fflach a’u ffrind gorau, Osian, wedi dod o hyd i lu o wisgoedd ffansi, ac maen nhw wrth eu bodd yn dychmygu bod yn gymeriadau gwahanol a gwisgo fel robot, doctor a môr-leidr.

Mae’r cymeriadau bach hoffus hyn wedi’u cyflwyno eisoes yn y llyfr stori-a-llun Fflur a Fflach: Yr Hwla Hud, sef gwaith Mick a Chloë Inkpen, a addaswyd i’r Gymraeg yn hyfryd iawn gan Mari Lovgreen. Cyflwynydd teledu yw Mari Lovgreen, o Gaernarfon yn wreiddiol ac sy’n byw erbyn hyn ar fferm yn Llanerfyl, y Trallwng. Mae hi wedi bod yn gyflwynwraig ar S4C ers blynyddoedd lawer a bellach mae hi wedi troi ei llaw at ysgrifennu.

Dyma lyfr bwrdd â chorneli crwn sy’n cynnig tipyn llai o destun na’r llyfr stori-a-llun gwreiddiol, ond sy’n goglais y dychymyg wrth gyflwyno’r syniad o wisgo fel gwahanol gymeriadau. Mae diwyg hyfryd i’r gyfrol ynghyd â lluniau syml sy’n llawn awyrgylch hud a lledrith.

Dyma stori hynod ddiniwed a difyr, ac un hyfryd i’w chyflwyno i’r plant lleiaf, felly dewch, ymunwch â’r cymeriadau bach annwyl hyn ar daith ddychmygus i fyd sy’n llawn hwyl ac antur!