CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mis yr Ŷd

Manon Steffan Ros

Mis yr Ŷd

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781845217006
Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 2019
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan
Darluniwyd gan Richard Huw Pritchard
Fformat: Clawr Meddal, 197x130 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis i Blant: Mawrth 2019
Nofel wreiddiol, afaelgar ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Yn gefnlen i'r stori mae hanes cymuned o deithwyr sy'n symud eu carafannau i Gae Rhianfa. Dyma stori gref am ragfarnau, cyfeillgarwch a brawdoliaeth rhwng dynion ifanc.
Gwybodaeth Bellach:
Mae trigolion Glannant yn gwylltio'n gacwn wrth i gymuned o deithwyr symud eu carafannau i Gae Rhianfa. Does neb yn fwy uchel ei gloch na thad Tom, sy'n rhybuddio bod y teithwyr yn siŵr o ddod â thor-cyfraith a diffyg trefn yn eu sgil.

Mae hi’n wyliau haf, ac oherwydd bod ei dad yn flin ac wedi cael llond bol ar weld Tom yn segura o gwmpas y tŷ, mae e’n ei hel allan i gael awyr iach. Ar y traeth y diwrnod hwnnw mae Tom yn cwrdd â Joni, un o’r teithwyr.

Mae Mis yr ŷd yn nofel am ragfarnau, cyfeillgarwch a brawdoliaeth rhwng dynion ifanc.

- Nofel wreiddiol ar gyfer darllenwyr hŷn (12-14 oed) gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru;
- Gellir ei darllen yn annibynnol er mwyn mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 3;
- Mae pecyn digidol am ddim ar wefan Hwb, sy’n cynnwys cwestiynau i gyd-fynd â’r nofel. Bydd y nofel yn helpu’r dysgwyr i fwynhau nofel drwy ganfod, dethol a defnyddio gwybodaeth yn ogystal ag ymateb i’r hyn a ddarllenwyd mewn modd ysgogol – bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth o astudio’r nofel fel cyfrwng rhyddiaith ac yn ymateb i fanyleb newydd TGAU 2016 maes o law.