CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Tudur Budr: Jyrms!

Gomer

Tudur Budr: Jyrms!

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: David Roberts

ISBN: 9781848512504
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Mawrth 2011
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Alan Macdonald
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Mair Davies
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Unwaith eto, mae Tudur mewn helynt ac yn mynd i drafferthion digri a doniol - wrth drafod aflendid a germau y tro hwn. Mae'r teitl hwn yn cyflwyno'r un hiwmor a hwyl ag arfer felly mae'n sicr o apelio at gynulleidfa eang, bechgyn yn arbennig.

Gwybodaeth Bellach:
Mae yna ambell i enw sy’n gweddu i’r dim i gymeriad ac mae Tudur Budr yn un ohonyn nhw. Dyma i chi fachgen bach mochaidd sy’n gadael ei farc ar y byd llyfrau, yn enwedig gyda bechgyn o ddarllenwyr tua saith oed i fyny. Gyda magned trwbwl mwyaf budr y byd yn hawlio’i le, nid yw’n syndod gweld Jyrms! Smwt! a Tŷ bach! fel teitlau newydd i’r gyfres boblogaidd a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Straeon hwyliog ar gyfer plant sy’n cael blas ar ddarllen yn annibynnol yw llyfrau Tudur Budr a cheir tair stori wahanol ymhob llyfr. Mae’r testun bachog gan Gwenno Mair Davies o Lansannnan, Dyffryn Conwy yn siwr o roi gwên ar wyneb ein darllenwyr ifanc gyda’r lluniau du a gwyn yn ychwanegu at y difyrrwch. Yn y stori Jyrms!, mae brech yr ieir ar chwaer Tudur ac mae e’n ysu am gael diwrnodau i ffwrdd o’r ysgol yn debyg iddi hi. Gwna ei orau glas i berswadio’i fam ei fod yn sal gyda’i gynllwyn cyfrwys yn llwyddo. Ond dyw pethau ddim yn fêl i gyd chwaith! Teithio ar y draffodd mewn bws ar drip ysgol yw cefndir un o straeon Tŷ Bach! Nid bws moethus gyda thŷ bach ar ei fwrdd yw hwn a dyna hanner y broblem. Os ydy plentyn eisiau mynd i’r tŷ bach, mae e eisiau mynd ar frys ran amlaf. Wrth i Tudur druan geisio anghofio ei bryder, fe ddaw achubiaeth iddo wedi darganfod potel lemonêd wag. Ond a fydd gwên ar wyneb Dyfan-Gwybod-y-Cyfan ar ddiwedd y dydd?

Drwy grynhoi pob math o arferion afiach bachgen direidus i gymeriad Tudur Budr a phlethu digwyddiadau cyffredin bywyd teuluol ac ysgol yn gefndir i’r anturiaethau, mae’r awdur wedi creu fformiwla sy’n apelio. Does ryfedd bod un ar ddeg teitl yng nghyfres Tudur Budr erbyn hyn!