CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Mark Llewelyn Evans
ISBN: 9781913634254
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Karl Davies
Fformat: Clawr Meddal, 252x201 mm, 68 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar drip ysgol i’r Amgueddfa Hanes Cenedlaethol yn Llundain, mae Jac a Megan yn cyfarfod eu hen ffrind, Cist. Mae’r tri yn mynd ar wib yn ôl i Academi Benwan y Cyfansoddwyr ac i ddinasoedd Salzburg, Fienna a Pharis, gan fentro ar antur arall i fyd yr opera – i’r Cyfnod Clasurol (1750–1820).
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mark Llewelyn Evans yw sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol ABC of Opera Productions, sy’n teithio ledled y DU gan gyflwyno plant i straeon a gogoniannau’r opera trwy gerddoriaeth ac adrodd straeon. Mae Mark yn ganwr opera proffesiynol sydd wedi canu prif rolau bariton i lawer o’r tai opera.
Mae Karl Davies yn ddarlunydd llyfrau plant newydd a chyffrous, ac mae ei waith yn dod â chast a chymeriadau ABC yr Opera yn fyw. Mae Karl yn arlunydd tirlun ac mae’n byw ym Mhontypridd; ef hefyd yw darlunydd The B Team a Walking with Bamps, llyfrau plant cyntaf Roy Noble.
Gwybodaeth Bellach:
Y dasg y tro hwn yw achub cerddoriaeth a straeon Wolfgang Wyntog (sef Mozart talentog ond tlawd), Tortellini Rossini (brenin y bwyd) a Beethoven rhag diflannu, ond a fyddan nhw’n ddigon dewr i herio
creadigaeth fwyaf brawychus Mozart? Dewch gyda ni ar ail ran y daith ryfeddol hon drwy hanes opera, taith na welwyd ei thebyg o’r blaen.