CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Oliver Jeffers
ISBN: 9781801060172
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Oliver Jeffers
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Eurig Salisbury.
Fformat: Clawr Caled, 288x248 mm, 42 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Beth grëwn ni, ti a fi? Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i. Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Oliver Jeffers yn arlunydd ac yn storïwr. Er cyhoeddi ei lyfr cyntaf hynod boblogaidd, How to Catch a Star, mae ei lyfrau stori-a-llun wedi ennill gwobrau, wedi gwerthu yn eu miloedd ac wedi eu cyfieithu ar hyd a lled y byd. Cyrhaeddodd frig rhestr gwerthwyr gorau The New York Times, ac enillodd ei gyfrol Here We Are wobr llyfr y flwyddyn cylchgrawn TIME.
Daw Oliver yn wreiddiol o Belfast, ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Brooklyn. Mae ganddo grap ar y grefft o adeiladu, ynghyd â llawer o ddychymyg ac ambell gyd-weithiwr newydd hefyd.
Gwybodaeth Bellach:
Yn gyntaf, gad inni gasglu’r offer i gyd.
Er mwyn rhoi at ei gilydd … a thynnu’n rhydd.
Mae tad a’i ferch yn mynd ati i osod seiliau eu bywyd gyda’i gilydd. Â’u hoffer arbennig, maen nhw’n creu atgofion, yn codi cartref diogel ac yn meithrin cariad i’w cadw’n gynnes.
Dyma stori oesol am gariad bythol rhiant, am bosibiliadau rhyfeddol bywyd ac am yr hyn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r dyfodol.
Cyfuniad unigryw o luniau a geiriau gan yr artist a’r awdur byd-enwog, Oliver Jeffers.