CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Anne Booth
ISBN: 9781913245313
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Sarah Massini
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Eurig Salisbury.
Fformat: Clawr Meddal, 276x246 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Un tro, roedd dim mwy na breuddwyd o gwmwl yn aros, yn cuddio, yn yr awyr las, ac fe drodd yn fymryn bach o wyn a thyfu a thyfu... Dyma stori obeithiol i godi'r galon a chanddi neges bwerus am gael dy garu a dy dderbyn, dim ots pwy wyt ti. Cyfieithiad Cymraeg Eurig Salisbury o Little Cloud yn cynnwys testun dwyieithog.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae pawb wrth eu bodd yn edrych ar y cwmwl bach gwyn gan ei fod yn gwneud pob math o siapiau diddorol, ond un diwrnod mae'r cwmwl bach yn mynd yn fwy ac yn dywyllach ac yn drymach. Wrth i'r diferion o law ddisgyn, mae pawb yn rhedeg i ffwrdd ac nid oes unrhyw un yn hapus i weld y cwmwl bach bellach… neu ydyn nhw?
Mae gan y stori galonogol, ddyrchafol hon neges bwerus am gael eich caru a'ch derbyn am bwy ydych chi.
Llyfr stori a llun hyfryd ar gyfer helpu i drafod emosiynau a chyflwyno'r cylchred dŵr i blant dan 7 oed.