CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfrinach Betsan Morgan

Gwenno Hywyn

Cyfrinach Betsan Morgan

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwenno Hywyn

ISBN: 9781800992566
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2022
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Jac Jones.
Fformat: Clawr Meddal, 195x131 mm, 80 tudalen
Iaith: Cymraeg

Stori ddirgel gyda thwist ffantasïol. Nid yw Betsan Morgan yn edrych ymlaen at dreulio wythnos gyda'r ysgol ym Mhlas yr Hydd. Mae ei ffrind gorau gartref yn sâl, a hithau'n gorfod mynd yno i ganol plant dieithr, i aros ar ei phen ei hun. Ond ar ôl cyrraedd y plas, mae Betsan yn darganfod ei bod yn gallu symud yn ôl i'r gorffennol a byw yn oes ei hen-hen-hen-nain.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Gwenno Hywyn yn Llundain nes oedd yn 13 oed ac yna aeth i fyw ym
Mhorthmadog a Phen-y-groes. Gweithiodd fel athrawes ail-iaith am gyfnod tan 1982, pan rhoddodd y gorau i ddysgu er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu.