CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Julia Rawlinson
ISBN: 9781802580129
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Chwefror 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Tiphanie Beeke
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 250x200 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Wedi i Cynan rowlio i lawr yr allt i ganol y berllan heulog, roedd e'n methu credu beth oedd o'i flaen. Eira! Aeth ar frys i rybuddio'i ffrindiau bod y gwanwyn yn hwyr iawn. Ond oes esboniad arall am y lluwch gwyn? Stori hyfryd i'w rhannu am ryfeddodau'r gwanwyn fydd yn siŵr o roi gwên ar wyneb darllenwyr ifanc.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Julia Rawlinson yn awdur barddoniaeth a llyfrau lluniau plant sydd wedi cael ei chydnabod a'i gwerthu yn rhyngwladol. Mae ei gweithiau diweddar eraill yn cynnwys Sweet Dreaming, Dragon's Lost Roar a Mule School. Mae Julia wedi'i lleoli yn Kenilworth, Swydd Warwick.
Mynychodd Tiphanie Beeke y Coleg Celf Frenhinol lle enillodd radd Meistr mewn Darlunio ac ers hynny mae wedi arbenigo mewn llyfrau plant. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys darluniau ar gyfer Fast Asleep in a Little Village in Israel a Changes: A Child's First Poetry Collection. Mae Tiphanie wedi'i lleoli ym Mharis, Ffrainc.