CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Holly Rivers
ISBN: 9781913573034
Dyddiad Cyhoeddi: 07 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf
Golygwyd gan Alun Ceri Jones
Darluniwyd gan Alex T Smith
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam.
Fformat: Clawr Meddal, 200x130 mm, 348 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Damelsa wrth ei bodd yn creu dyfeisiadau rhyfeddol. Mae hi hefyd wedi etifeddu dawn ei Nain i Ysbrydoli Ysbrydion. Ond pan fo rhyw ddihiryn yn cipio Nain, mae Damelsa'n gwybod bod gan ysbrydoli ysbrydion ran fawr i'w chwarae yn y mater. Tybed all hi ddatrys y dirgelwch hwn, ac achub Nain? Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Demelza and the Spectre Detectors.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Addasiad o Demelza and the Spectre Detectors, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020. Dyma nofel gyntaf yr awdures Gymraeg ifanc o Gaerdydd, Holly Rivers, a'r gyntaf mewn cyfres o dair sydd eisoes wedi cael ei chomisiynu. Cafodd Holly ei haddysg yn ysgolion Cymraeg Coed y Gof a Glantaf yng Nghaerdydd, cyn ennill gradd gyntaf mewn darlledu o Brifysgol Falmouth.
Gwybodaeth Bellach:
Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru 2017-19. Mae Casia yn enw cyfarwydd ym maes llenyddiaeth Cymraeg i blant fel awdures a chyfieithydd.