CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Dim Bwystfilod!

Tracey Hammett

Dim Bwystfilod!

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Tracey Hammett

ISBN: 9781913733452
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Jan McCafferty
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 270x212 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg

Pan ddaw bwystfil i ymuno ag Ysgol y Dref, mae'r plant wrth eu boddau â'i ddrygioni chwareus. Ond yn fuan iawn mae'n achosi anhrefn a helynt, ac mae Miss a Syr yn dweud bod rhaid iddo fynd. A fydd y plant yn medru eu perswadio na fydd yr ysgol fyth yr un fath heb eu ffrind fflwffiog?

Bywgraffiad Awdur:
Mae Tracy Hammet yn awdur a anwyd yng Nghymru, sy'n rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain. Mynychodd Ysgol Uwchradd Whitchurch, Caerdydd, ac astudiodd Saesneg a Theatr yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain. Mae Tracy wedi ysgrifennu nifer o straeon, sgriptiau a cherddi ar gyfer teledu a radio plant y BBC, gan gynnwys sawl rhaglen a enwebwyd ac sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, ac mae'n hoffi cyfuno ei chariad at eiriau, straeon ac odli gyda thalp hael o hiwmor ac ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae Jan McCafferty yn ddarlunydd llyfrau plant profiadol sydd bellach yn byw ym Manceinion, ar ôl astudio Dylunio Graffig a Darlunio ym Mhrifysgol Canol Lloegr. Mae ei darluniau ar gyfer llyfrau plant llwyddiannus eraill yn cynnwys The Enchanted Wood, cyfres Oliver Moon a chyfres Kid Cowboy.