CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Fferm Cwm Cawdel: Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel 2

Gwennan Evans

Fferm Cwm Cawdel: Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel 2

Pris arferol £6.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwennan Evans

ISBN: 9781845278229
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan LLeucu Gwenllian
Fformat: Clawr Meddal, 190x135 mm, 40 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ymunwch efo Ffion a Fflei a'r gwartheg i gyd wrth iddyn nhw fentro ar wyliau arall yng Nghymru.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Daw Gwennan Evans o Ddyffryn Cothi'n wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i dau fab. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac fe ddilynodd drywydd Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ei hymchwil yno. Enillodd radd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ddoniol i blant, Iârgyfwng, yn 2017. Cyhoeddodd stori fer i'r arddegau yn y gyfrol Seren Wib a bydd ei Stori Tic Toc gyntaf i blant bach i'w chlywed ar Radio Cymru yn Hydref 2019. Ym mis Chwefror 2019, treuliodd wythnos yn Nhŷ Newydd ar gwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones. Mae Gwennan hefyd yn barddoni ac wedi ysgrifennu nifer o gerddi i blant ar gyfer sawl Stomp Plant.