CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Genod Gwych a Merched Medrus 2

Medi Jones-Jackson

Genod Gwych a Merched Medrus 2

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Medi Jones-Jackson

ISBN: 9781800990555
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Awst 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Darluniwyd gan Dylunydd: Dyfan Williams, Arlunydd: Telor Gwyn
Fformat: Clawr Meddal, 250x252 mm, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol arall am fwy o ferched sy’n ysbrydoli merched a bechgyn Cymru. Dyma arwresau o Gymru, sydd wedi llwyddo yn eu meysydd arbenigol, e.e. Cranogwen, Mary Quant a Lowri Morgan. Mae'n gyfrol llawn hwyl, yn lliwgar ac yn ddeniadol i'r llygad.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, symudodd Medi i Aberystwyth fel myfyriwr gan ddisgyn mewn cariad gyda’r ardal a gyda bachgen o Gaernarfon. Yn gyn-swyddog hybu darllen i Gyngor Llyfrau Cymru cafodd Medi ei hysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus, ei llyfr cyntaf, gan y diffyg sylw i hanes merched o Gymru. Yn fam i ddau mae gan Medi ddiddordrbau eang, gan gynnwys garddio, ioga, teithio, gwylio ffilmiau a sioeau cerdd. Fe wnaeth y llyfr gyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a rhestr fer Llyfr y Flwyddyn (Plant ac Oedolion Ifanc).

Gwybodaeth Bellach:
Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Vulcana, Ann Pettitt, Cranogwen, Lowri Morgan, Mary Vaughan Jones, Rachel Rowlands, Margaret Haig Thomas, Annie Atkins, Mary Quant, Shirley Bassey, Lucy Thomas, Meena Upadhyaya.