CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Myrddin ap Dafydd, Huw Aaron
ISBN: 9781845278236
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Huw Aaron
Fformat: Clawr Meddal, 230x210 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma ni, trip yr Adran Iau. Mae bag ar bob cefn, cap neu ddau, mynydd o’n blaenau a’r gair mawr ydi MWYNHAU! Ie, taith gerdded Dosbarth Dau, ond ydyn nhw’n mwynhau? Cyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd ddigri gan Myrddin ap Dafydd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyfrau a chylchgronnau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? ac Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n'Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth categori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.
Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o'i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel You Tube 'Criw Celf', gyda'i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.
Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen 'Ceri Greu' ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd gan Myrddin ap Dafydd. Cerdd ddigri yn disgrifio taith gerdded yr adran iau yn yr ysgol i fyny Mynydd Mamoth – cerdd a fydd yn bendant at ddant pob plentyn sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.