CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser

Elidir Jones | Huw Aaron

Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser

Pris arferol £5.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elidir Jones, Huw Aaron

ISBN: 9781914303104
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Hydref 2021
Cyhoeddwr: BROGA
Darluniwyd gan Huw Aaron
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 211x149 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

200g o flawd. 50g o fenyn. 500g o siwgwr. 4 wy. Un cloc a dau arwr twp. Dyna i gyd sydd ei angen ar gyfer gwibdaith wyllt trwy hanes Cymru - a'r peiriant amser mwyaf blasus erioed! Deinosoriaid, môr-ladron, tywysogion ac arwyr lu... ond a fydd Seren a Sbarc yn cyrraedd adref mewn amser? Mae'r llyfr wedi ei gyflwyno mewn arddull comic sy'n berffaith i ddarllenwyr anfoddog neu ail-iaith.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Awdur, sgriptiwr a chomediwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015, ac ers hynny mae wedi ysgrifennu tri theitl yng nghyfres Y Copa Coch. Ymhlith ei waith teledu y mae 'Ddoe am Ddeg', 'Arfordir Cymru', a 'Cynefin'. Erbyn hyn mae'n byw ym Mhontypridd gyda'i wraig a'i gŵn mewn tŷ llawn llyfrau.

Mae Huw Aaron yn gartwnydd, awdur a ddarlunydd o Gaerdydd. Gellir gweld ei waith mewn nifer fawr o lyfrau boblogaidd i blant: Ble Mae Boc?, Gwil Garw a'r Carchar Crisial, PAM?, Ha Ha Cnec, TRIO, Y Ddinas Uchel, A am Anghenfil a llawer mwy.

Mae Elidir a Huw wedi gweithio gyda'u gilydd ar nifer o brosiectau. Enillodd eu llyfr cyntaf, Yr Horwth, wobr Llyfr y Flwyddyn i Blant a Phobl Ifanc, 2020.