CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Bethan Gwanas
ISBN: 9781914303081
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: BROGA
Darluniwyd gan Hanna Harris
Fformat: Clawr Meddal, 241x211 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
♥ Llyfr y Mis i Blant: Rhagfyr 2021
Dyma stori merch fach swil o Gaerdydd ddaeth yn seren fyd-enwog. Roedd llais Shirley Bassey yn rhy gryf i gôr yr ysgol, ond erbyn hyn mae ei llais anhygoel hi wedi codi'r to dros y byd i gyd, o Las Vegas i Stadiwm y Mileniwm, ac wedi'i glywed ar ffilmiau James Bond. Shirley yw un o'r perfformwyr mwyaf llwyddiannus erioed, ond dydy ei bywyd ddim wedi bod yn fêl i gyd o bell ffordd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Awdures boblogaidd dros 40 o lyfrau i blant ac oedolion. Enillodd wobr Tir na nOg am ei llyfrau i’r arddegau, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant. Mae’n byw ger Dolgellau ym Meirionnydd ac yn mwynhau beicio a chwmni cŵn.