CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Tywysog y Trenyrs

Pryderi Gwyn Jones

Tywysog y Trenyrs

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Pryderi Gwyn Jones

ISBN: 9781845278267
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Huw Richards
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 152 tudalen
Iaith: Cymraeg

Y drydedd nofel sy'n dilyn hynt a helyntion Brenin y Trenyrs a’i ffrindiau gwallgof! Mae Brenin y Trenyrs wedi cyrraedd adre o’r Almaen ers sbel bellach, a’r €1000 o bres gwario wedi hen fynd yn angof. A fydd llonydd i’w gael? O na! Ddim i Frenin y Trenyrs!

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd Pryderi Gwyn Jones yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd i’r canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach mae’n dad i ddwy o ferched.

Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora’n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012.
Hon yw ei drydedd nofel.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Brenin y Trenyrs wedi cyrraedd adre o'r ffatri Adidas yn yr Almaen ers sbel a'r €1000 o bres gwario a enillodd wedi'i wario i gyd. Nike Air Force 1 sydd ganddo am ei draed erbyn hyn yn yr ysgol ac yn y gym. Mae pethau efo Gwendoline yn mynd yn reit dda tan ...! Pam bod Dyl yn edrych ar ei ffôn bob munud ac yn chwerthin dros y lle? Pwy yw'r Hercules 'ma sydd efo gym newydd yn y dre? A beth am y gystadleuaeth 'ma mae pawb yn mynnu sôn amdani o hyd? A fydd llonydd i'w gael? Ddim iddo fo, Brenin y Trenyrs!

Addas i oedran 11-14 oed (Cyfnod Allweddol 3)