CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-Droed

Lleucu Lynch

Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-Droed

Pris arferol £4.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Lleucu Lynch

ISBN: 9781845278243
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Gwen Millward
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
Fformat: Clawr Meddal, 148x135 mm, 60 tudalen
Iaith: Cymraeg

Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Lleucu Lynch yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o’i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn y portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.