CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Pump

Y Lolfa

Y Pump

Pris arferol £25.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared, Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Marged E. Wiliam, Mahum Umer, Megan A. Hunter, Maisie Awen

ISBN: 9781800990685
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm
Iaith: Cymraeg

Set focs o bump nofel fer sy'n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:

Tim gan Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Tami gan Marged Elen Wiliam gyda Ceri-Anne Gatehouse
Aniq gan Mared Roberts gyda Mahum Umer
Robyn gan Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Gwybodaeth Bellach:
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol o bum nofelig, 20,000 o eiriau yr un, i bobl ifanc, am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Cyfres gan bump o awduron a chyd-awduron ifanc, sy’n dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.