CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Pump - Aniq

Marged Elen Wiliam

Y Pump - Aniq

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Marged Elen Wiliam, gyda Mahum Umer

ISBN: 9781800990630
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r drydedd o bum nofel yng nghyfres Y Pump. Mae Aniq yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Yng nghanol cyfnod anodd o orfod ymdopi â bywyd ysgol, galar a gwrthdaro teuluol, mae crefydd, celf a chyfeillgarwch yn gynhaliaeth iddi.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Marged Elen Wiliam ei magu ym Mangor, cyn dilyn cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg King’s, Llundain. Ar ôl graddio bu’n gwirfoddoli mewn pentref yn Rajasthan, India, ac yna ddilyn cwrs ôl-radd yng Nghaergrawnt mewn Astudiaethau De Asiaidd Fodern. Roedd ennill Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen ynghyd ag ennill cystadleuaeth stori fer cylchgrawn Cara yn hwb iddi gymryd ysgrifennu yn fwy o ddifrif.

Mae Mahum Umer yn falch iawn o'i gwreiddiau Pacistanaidd-Cymreig. Mae’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau i ddod ag amrywiaeth i lenyddiaeth a’r cyfryngau.

Gwybodaeth Bellach:
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Ma'e gyfres yn dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.