CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Megan Angharad Hunter, gyda Maisie Awen
ISBN: 9781800990654
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma'r bumed, a'r olaf, yng nghyfres Y Pump. Mae Cat yn un o griw'r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae ei ffrindiau go iawn yn ei chadw'n gryf yn ystod cyfnod heriol, ac mae’n darganfod hiwmor er gwaetha’r dioddefaint a’r boen.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Megan Angharad Hunter ei haddysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ac ar hyn o bryd mae’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn O’r Pedwar Gwynt ac mae newydd gyhoeddi ei nofel arbennig Tu Ôl i'r Awyr – nofel sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn gan ddarllenwyr, awduron a beirniaid llenyddol.
Mae Maisie Awen yn 18 oed ac yn dod o Sir Benfro. Mae wrth ei bodd â phob math o gelfyddyd, sgwennu cerddi a straeon byrion.
Gwybodaeth Bellach:
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Ma'e gyfres yn dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.