CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Pump - Tami

Mared Roberts

Y Pump - Tami

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mared Roberts, gyda Ceri-Anne Gatehouse

ISBN: 9781800990623
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r ail o bum nofel yng nghyfres Y Pump. Mae Tami yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Ond mae ei chyfeillgarwch gyda’i ffrindiau yn cael ei brofi i’r eithaf gan berson newydd sy’n dod i mewn i’w bywyd...

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Mared Roberts yn dod o ardal Cei Newydd, Ceredigion. Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd ac mae’n bellach yn gyfieithydd. Enillodd y Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn 2019. Hon yw ei nofel gyntaf.

Mae Ceri-Anne Gatehouse yn ysgrifennwr ac yn fardd sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs gradd BA Drama ac Ysgrifennu Creadigol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae’n falch iawn o weithio ar nofel sy’n rhoi cynrychiolaeth i bobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli.

Gwybodaeth Bellach:
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Ma'e gyfres yn dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.