CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

A Brief History of Wales

Gerald Morgan

A Brief History of Wales

Pris arferol £4.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gerald Morgan

ISBN: 9781847710185
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 174x120 mm, 144 tudalen
Iaith: Saesneg

Cyfrol fer hylaw ar hanes Cymru gan hanesydd nodedig. Ceir yma fraslun o'r stori gyfan - o gyfnod y Rhufeiniaid ymlaen, trwy gyfnodau'r Llychlynwyr, y Sacsoniaid, y Normaniaid a'r Ffleminiaid. Telir sylw i dywysogion, pabyddion, protestaniaid, gwleidyddion, gwladgarwyr, proffwydi a'r werin gyffredin.

Gwybodaeth Bellach:
Hanes Cymru mewn un eisteddiad

Mae’r Lolfa newydd gyhoeddi crynodeb o hanes Cymru fydd yn bosib ei ddarllen mewn un eisteddiad. Cwta 140 tudalen yw’r gyfrol A Brief History of Wales gan Gerald Morgan, eto llwydda’r awdur i gyflwyno holl gyffro stori ryfeddol Cymru o’r goncwest Rufeinig i ddatganoli mewn modd difyr a darllenadwy.

Bydd y gyfrol at ddant twristiaid, disgyblion ysgol a phawb sydd am atgyfnerthu eu gwybodaeth o hanes y genedl. Dywedodd yr awdur, "Dwi wedi bod mewn cariad a hanes Cymru ers i mi ddarllen gwaith OM Edwards ac Owen Rhoscomyl yn ddeg oed. Ers hynny wedi ceisio dod i’r afael a chymhlethdodau hanes a’r newidiadau aruthrol sydd wedi digwydd yng Nghymru."