Awdur: Idris Reynolds
ISBN: 9781785622922
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 217x141 mm, 108 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol o farddoniaeth gyfoes gan y Prifardd Idris Reynolds. Dyma ei drydedd gyfrol o gerddi. 'Cyfrol ddisglair ei chrefft a'i hawen yw Ar Ben y Lôn, gydag ôl y pen a'r galon ar bob sillaf ohoni.' (Ceri Wyn Jones)
Bywgraffiad Awdur:
Mae'r Prifardd Idris Reynolds yn fardd toreithiog ac yn awdur nifer o gyfrolau am feirdd a barddoniaeth. Enillodd ei gyfrol Cofio Dic wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017. Mae'n byw ym mhentref Brynhoffnant gyda'i wraig Elsie.
Gwybodaeth Bellach:
'Dyma gyfrol sy'n dangos Idris ar ben ei gêm - yn gyson ei ergyd, yn loyw ei grefft ac yn gweld yn bell. Joe Allen ein hawen yw.' - Llion Jones
'Mae blas hen win gwinllannoedd sir Aberteifi ar y gyfrol gynhwysfawr hon. Fe lwydda cerddi ein prifardd gwlad godi gwên ac i lenwi'r llygaid wrth iddynt ddilyn troeon amrywiol yr yrfa, a'r cymeriadau a fu'n gwmni iddo ar y daith.' - Annes Glynn