Awdur: Mererid Hopwood
ISBN: 9781912261871
Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 2020
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Clout Branding, Jessica Benhar
Fformat: Clawr Meddal, 134x102 mm, 42 tudalen
Iaith: Cymraeg
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Mae pob un yn agor drwy gyflwyno pennill cyfarwydd, yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau'r llinellau'n diflannu. Bydd y bylchau a'r lluniau'n anogaeth i gofio'r geiriau coll...
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Mererid ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ond bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i theulu ac yn dysgu ym Mhrifysgol Drindod Dewi Sant. Hi yw'r ferch gyntaf i gyflawni'r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwybodaeth Bellach:
Y cof. Un o'n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw'r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae'r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy'n caniatáu i ni berthyn i'n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o'r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â'r nod o'n cynorthwyo i gofio cofio.