ISBN: 9781845275716
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Chwefror 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Eryl Owain
Darluniwyd gan Aneurin Phillips
Fformat: Clawr Caled, 268x215 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mwynhewch yr ucheldiroedd hyn trwy ddilyn trywydd y 48 o deithiau - ym mhob cwr o'r wlad - a gyflwynir yma gan aelodau Clwb Mynydda Cymru, ynghyd â mapiau lliw, lluniau nodedig a phytiau o wybodaeth ddiddorol i ysbrydoli cerddwyr a dringwyr fel ei gilydd.
Gwybodaeth Bellach:
Prin bod unrhyw wlad arall o’r un maint â chymaint o fynydd-dir amrywiol; o gribau creigiog Eryri i fynyddoedd goseiddig Meirionnydd ac o unigeddau’r canolbarth i esgeiriau trawiadol y Bannau, mae gan Gymru gymaint i’w gynnig.
Mwynhewch yr ucheldiroedd hyn trwy ddilyn trywydd y 48 o deithiau – ym mhob cwr o’r wlad – a gyflwynir yma gan aelodau Clwb Mynydda Cymru, ynghyd â mapiau lliw, lluniau nodedig a phytiau o wybodaeth ddiddorol i’ch ysbrydoli.
Ers ei sefydlu yn 1979, mae Clwb Mynydda Cymru wedi tynnu’r cerddwyr Cymraeg at ei gilydd i grwydro’r mynyddoedd, gan ddysgu am y grefft ac am gynefinoedd newydd wrth fwynhau’r gwmnïaeth ar y teithiau. O blith yr aelodau y daeth cyfranwyr y teithiau unigol a nifer helaeth o’r lluniau trawiadol. Mae’n gyfrol sy’n ddathliad o’n mynyddoedd ac sy’n estyn croeso i bawb werthfawrogi eu gogoniant.
Felly darllenwch a mwynhewch ond, yn fwy na dim, ewch allan a cherddwch!